Rydym yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i annog Llywodraeth Cymru i leihau'r risg o lifogydd i filoedd o gartrefi drwy'r wlad drwy gefnogi plannu o leiaf 10 miliwn coeden dros y pum mlynedd nesaf, gan greu perthi, lleiniau coed a mannau coediog wedi'u targedu yn y mannau gorau ar gyfer amsugno'r dŵr ac arafu dŵr ffo. Byddai plannu'r coed hyn yn cyfrif tuag at nod bresennol Llywodraeth Cymru i blannu 100,000 hectar o goed i amsugno carbon deuocsid o'r awyrgylch.
Prif ddeisebydd: Coed Cadw
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 18 Chwefror 2014
Nifer y llofnodion: 2708